Beth Ydym yn Gwneud
Mae Oxfam Cymru yn credu mewn byd llawer gwell, yn rhydd o anghyfiawnder tlodi.
Fel rhan o deulu byd-eang Oxfam, mae Oxfam Cymru yn bartner i gymunedau ledled Cymru ac o gwmpas y byd sy'n mynd i'r afael â thlodi, gan gydnabod y gall ddigwydd yn unrhyw le, i unrhyw un. Rydym yn credu pan fydd pobl yn dod at eu gilydd, mae newid yn digwydd. Rydym yn ymdrechu am fyd lle mae pob un ohonom wedi'n grymuso â'r union beth sydd ei angen arnom i ffynnu. Mae Oxfam Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ysgogi newid yng Nghymru ac o Gymru.

Yn rhy aml, nid yw'r gwaith, a wneir yn bennaf gan fenywod – boed yn cael eu talu ai beidio – yn cael ei werthfawrogi'n ddigon uchel. Mae hyn yn gadael gormod o fenywod mewn tlodi.

Mae Cymru wastad wedi bod yn arweinydd byd-eang mewn sawl ffordd. Heddiw, mae angen mawr i Gymru ddangos undod byd-eang: am y tro cyntaf mewn 25 mlynedd, mae tlodi ac anghydraddoldeb eithafol unwaith eto ar gynnydd ledled y byd ac yma yn ein gwlad.

Mae pobl sydd wedi gwneud y lleiaf i achosi'r argyfwng hinsawdd yn cael eu gwthio'n ddyfnach i dlodi, gan ymladd am eu bywydau oherwydd tywydd eithafol ac anrhagweladwy.

Ni wnawn fyw gyda thlodi, lle bynnag y gwelwn ef, gan gynnwys yma yng Nghymru.