Bethan Sayed yw Pennaeth Oxfam Cymru. Mae'n gweithio gyda'r tîm i arwain ymdrechion i hyrwyddo trawsnewid teg, cyfiawnder hinsawdd fyd-eang, a Chymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Mae ganddi brofiad helaeth ym mywyd cyhoeddus, eiriolaeth wleidyddol, a gwaith ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol.
Cyn ymuno ag Oxfam Cymru, roedd Bethan yn Bennaeth Gwleidyddiaeth ac Eiriolaeth gyda Climate Cymru, yn gweithio gyda chymunedau i hyrwyddo datrysiadau i'r argyfwng costau byw, yr argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd.
Bu Bethan hefyd yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin De Cymru am 15 mlynedd. Yn ystod ei chyfnod yn y Senedd, gweithiodd ar faterion allweddol, gan gynnwys hawliau dynol a'r hinsawdd; bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd o 2016 tan iddi adael yn 2021.
Mae hi wedi treulio blynyddoedd yn trefnu ymgyrchoedd llawr gwlad yn weithredol, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb byd-eang a hawliau menywod. Mae hi wedi ymrwymo i hyrwyddo newid sy'n creu Cymru a byd sy'n decach ac yn fwy cynaliadwy.