Nid yw tlodi yng Nghymru yn anochel. Ond mae mynd i'r afael ag ef yn golygu ailstrwythuro ein heconomi, fel ei bod yn gwneud mwy i rannu cyfoeth Cymru yn deg ac i amddiffyn ein planed.
Yn hanfodol i hyn yw sicrhau ein bod, yn fyd-eang, ac yma yng Nghymru, yn symud i ffwrdd o fesurau crai fel Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (CMC neu GDP) fel prif ddangosydd cynnydd economaidd a chymdeithasol.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld rhywfaint o gynnydd, gyda chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn 2015. Gwnaeth y gyfraith hon wneud Cymru y wlad gyntaf yn y byd i wneud ymrwymiad penodol o dan y gyfraith i sicrhau y bydd gan genedlaethau'r dyfodol o leiaf yr un ansawdd bywyd ag sydd gennym nawr. Y wlad gyntaf i ddeddfu i sicrhau bod rhaid ystyried buddiannau cenedlaethau'r dyfodol bob amser ym mhob polisi cyhoeddus ac ar draws pob maes gwasanaeth cyhoeddus.
Gyda gormod o bobl yng Nghymru yn parhau i wynebu anghyfiawnder tlodi, mae angen i ni weld cynnydd pellach, cyflymach. Ni fydd Cymru well, decach a mwy gwyrdd yn adeiladu ei hun, mae'n rhaid i ni wneud i hyn ddigwydd.
Dyna pam, gyda'n partneriaid, Sefydliad Materion Cymru, rydym wedi nodi cyfres o opsiynau polisi i Lywodraeth Cymru eu harchwilio yn ein papur, A Wales That Cares for People and Planet.