Er bod arian yn hanfodol, gwyddom fod datblygiad byd-eang yn ymwneud â mwy na dim ond rhoi cefnogaeth ariannol i wledydd incwm isel.
Mae'n ymwneud â'r hyn a brynwn, sut rydym yn masnachu, sut mae ein busnesau'n gweithredu, ein hôl troed hinsawdd fyd-eang, sut rydym yn cefnogi ffoaduriaid sy'n byw yng Nghymru, ac effaith ein polisi domestig ehangach a'n penderfyniadau gwariant. Mae angen i ni sicrhau bod ein holl gamau gweithredu yn cefnogi datblygiad byd-eang teg a chynaliadwy.
Dyna pam rydym yn gweithio'n agos gyda Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, i godi proffil effaith ehangach Cymru ar lefel fyd-eang, yn gadarnhaol ac yn negyddol, gan yna weithio i'w wella.
Yn ogystal â'r hyn a wnawn, mae'r hyn a ddywedwn yn bwysig. Er efallai na fydd Cymru'n gallu cyfrannu adnoddau ariannol helaeth at ymdrechion byd-eang i leihau tlodi, mae arwain y byd wrth osod iaith y drafodaeth yn sicr o fewn ein gafael. Yma yn Oxfam Cymru rydym bob amser yn gweithio i sicrhau bod llunwyr polisi yng Nghymru yn lleisio barn ar faterion sy'n wirioneddol bwysig, boed hynny i gefnogi mynediad teg at frechlynnau yn fyd-eang neu i ysgogi diwedd ar wrthdaro dinistriol, fel y rhyfel yn Gaza.
Yn Oxfam Cymru rydym hefyd yn cydnabod addysg fel arf pwerus a all helpu i yrru newid trawsnewidiol. Rhaid inni gefnogi pobl ifanc i fod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol sy'n deall y byd ehangach, a'u lle ynddo.