Tanbrisio gofal yw’r enghraifft gliriaf, a dyma ein ffocws presennol yma yn Oxfam Cymru.
Mae miliynau ohonom ledled Cymru, y DU, ac yn fyd-eang, yn darparu gofal di-dâl yn ogystal a gofal â thâl, ac yn ymgymryd â gwaith domestig di-dâl yn y cartref. Gwaith sydd i gyd yn hanfodol ar gyfer lles ein teuluoedd ac ar gyfer hwylustod ein cymdeithasau. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn i'n heconomï weithredu.
Mae diffyg cydnabyddiaeth yn golygu nad oes digon o gefnogaeth ymarferol nac ariannol yn cael ei rhoi i ofalwyr a rhieni di-dâl. Mae'n golygu cyflog isel ac amodau gwaith gwael i weithwyr gofal. Mae'n golygu gwasanaethau gofal plant a gofal oedolion sydd wedi'u gorymestyn a'u tanariannu.
Yn aml, gadewir gofalwyr, a'r rhai sy'n profi gofal, i dalu'r pris uchaf. Mae llawer yn wynebu caledi ariannol a thlodi dwfn, yn ogystal â straen corfforol ac emosiynol enfawr.
Rhwydwaith anweledig yw hwn, o fenywod yn bennaf, lle bo eu tiriondeb a pharodrwydd i ymrwymo at ofal yn gyson cael ei gymryd yn ganiataol, yn cael ei anwybyddu gan gymdeithas a'i fanteisio arno gan fyd sydd wedi'i adeiladu ar ragdybiaeth o anghydraddoldeb.
Nid oes rhaid i pethau fod fel hyn. Dyna pam, yma yng Nghymru, rydym yn gwthio llunwyr polisi i wneud dewisiadau gwell sy'n cydnabod gwir werth gofal yn ein bywydau ni oll, fel rhan o ymdrechion eang i werthfawrogi crynswth y gwaith a wneir gan fenywod yn well.