Fel gwledydd cyfoethog eraill sy'n llygru'n fawr, mae gan Gymru gyfrifoldeb clir i leihau ein hallyriadau niweidiol. Ond, yn union fel ar lefel y DU, nid ydym yn mynd yn ddigon cyflym.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019 ac addawodd y byddai Cymru yn cyrraedd sero net – gan gyflawni cydbwysedd rhwng y carbon a allyrrir i'r atmosffer a'r carbon a dynnir ohono – erbyn 2050, yn unol â Llywodraeth y DU.
Er ein bod wedi cyrraedd ein targedau cyntaf, mae cynghorwyr arbenigol y Llywodraeth, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yn dweud nad yw Cymru eto ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau ar gyfer ail hanner y degawd a thu hwnt.
Mae Oxfam Cymru yn gweithio gyda'n partneriaid yng nghlymblaid hinsawdd Cymru, Climate Cymru, i wthio am weithredu cyflymach a fydd yn datgloi manteision clir – o gartrefi cynhesach ac aer glanach, i iechyd gwell.
Gyda thystiolaeth glir bod yn rhaid i'r byd roi'r gorau ar frys i'n defnydd o danwydd ffosil sy'n dinistrio'r hinsawdd, rydym yn cefnogi galwadau ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i'w pwyll ynghylch glo drwy weithredu gwaharddiad go iawn ar fwy o gloddio glo, gan sicrhau bod y newid i wlad fwy gwyrdd a glanach yn cael ei gyflawni'n deg.
Yn bwysig, rydym hefyd yn galw ar Gymru i ddod yn genedl gyntaf Ras i Sero. Mae Ras i Sero yn fenter fyd-eang, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, sy'n dod a chyrff o du allan i lywodraeth ynghyd i gymryd camau trylwyr heb oedi i gyflawni byd iachach, tecach, mwy gwyrdd a di-garbon.
Mae Ras i Sero Cymru yn gwasgu ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r fframwaith a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig i gydlynu a chyflymu gweithred ar yr hinsawdd ar draws pob sector a lefel weinyddol yng Nghymru.