- Llinell Goch Dros Gaza


Llinell Goch Dros Gaza
Dydd ar ôl ddydd rydym yn gwylio erchyllter Gaza yn datblygu ar ein sgriniau, wrth i lywodraeth Israel groesi llinell goch ar ôl llinell goch.
Dyma'r amser i weithredu. Rhaid inni godi llais a dweud: DIGON.
Byddwch yn rhan o'r Llinell Goch Dros Gaza
Ysgolion wedi'u bomio, plant, gweithwyr gofal iechyd, newyddiadurwyr a gweithwyr cymorth wedi'u lladd, bwyd, dŵr a chymorth wedi'u defnyddio fel arfau rhyfel. Mae'r rhain i gyd yn llinellau coch.
Rhaid i'r sawl ohonom sydd wedi'u dychryn yn deg gan y digwyddiadau hyn godi llais a mynnu bod ein llywodraeth yng Nghymru, yn ei thro, yn codi ei llais yn uchel ar ein rhan.
Gadewch i ni ddangos ein llinell goch i'r byd.
Ychwanegwch eich ffenest chi at ymgyrch Llinell Goch Cymru dros Gaza a dywedwch: DIGON. NID YN ENW CYMRU.