Tudalen Flaen Cerdyn Sgôr Polisi Gofal ar gyfer Cymru
Tudalen Flaen Cerdyn Sgôr Polisi Gofal ar gyfer Cymru

Cerdyn Sgôr Polisi Gofal ar gyfer Cymru

Dyma'r Cerdyn Sgôr Polisi Gofal cyntaf erioed ar gyfer Cymru - wedi ei gefnogi gan Oxfam Cymru a'i lunio mewn partneriaeth gyda Gofalwyr Cymru a Sefydliad Bevan

Gofal yw asgwrn cefn cymdeithas Cymru—hanfodol ond yn aml yn anweledig. Mae'n cynnal ein bywydau, ein cymunedau a'n heconomi. Mae'n caniatáu i unigolion oroesi, teuluoedd ffynnu a chymdeithasau weithredu. Ar draws y DU, mae miliynau o bobl yn darparu gofal bob dydd—boed fel rhieni neu warcheidwaid, gweithwyr gofal cymdeithasol a gofal plant, neu ofalwyr di-dâl sy'n cefnogi aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion sy'n anabl, sydd â salwch, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth iddynt heneiddio.

Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r Offeryn Cerdyn Sgorio Polisi Gofal, fframwaith a ddatblygwyd gan Oxfam, a gynlluniwyd i asesu a yw polisi'r llywodraeth yn creu amgylchedd galluogol ar gyfer gofal.