-


Cerdyn Sgorio Ffeministaidd
Mewn cydweithrediad a RhCM Cymru, rydym yn cyhoeddi Cerdyn Sgorio Ffeministaidd yn rheolaidd sy’n olrhain cynnydd Llywodraeth Cymru ar gydraddoldeb rhywedd ac yn eu dwyn i gyfrif.
Mae’r Cerdyn Sgorio Ffeministaidd 2024 yn dangos cyfres o gipluniau o berfformiad Llywodraeth Cymru mewn chwe maes allweddol:
- Cyllid Teg
- Cyfrifoldebau Gofalu
- Hawliau Menywod Byd-eang
- Cynrychiolaeth Gyfartal ac Arweinyddiaeth
- Mynd i’r afael ag Anghydraddoldebau Iechyd Rhywiol
- Dod â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched i Ben
Er bod rhai camau cadarnhaol wedi’u cymryd, mae dau o’r chwe maes a ystyriwyd (Cyllid Teg a Chyfrifoldebau Gofalu) wedi mynd yn ôl o ambr i goch wrth i’r cynnydd gael ei ddadwneud gan y pandemig.
Dyna pam y bu i ni alw am Gomisiynydd Menywod, a fyddai’n hyrwyddo ac yn warcheidwad hawliau menywod yng Nghymru.