

Cymru sy'n Gofalu am Bobl a'r Blaned
Mae'r papur hwn yn seiliedig ar drafodaeth ford gron a gynullwyd ym mis Ebrill 2024 gan Sefydliad Materion Cymru (SMC) gyda chefnogaeth Oxfam Cymru a mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd.
Nod y trafodaethau hyn oedd cyflwyno ac archwilio ffyrdd y gall Cymru symud ymlaen tuag at economi sy'n gofalu am bobl a'r blaned, gan symud y tu hwnt i CMC. Casglodd y digwyddiad safbwyntiau ffeministaidd croestoriadol, academyddion ac economegwyr ac arbenigwyr allweddol eraill i drafod dull cyfannol sy'n cysylltu cyfiawnder hinsawdd, economeg ffeministaidd, cyllido economïau gofal a lles. Wrth wneud hynny, ein bwriad yw hyrwyddo gwaith Oxfam Cymru ar ddulliau amgen economaidd, dysgu o ddulliau byd-eang a'u harchwilio o safbwynt Cymreig.