

Economi Llesiant Cymru
Mae Cymru yn wynebu moment hollbwysig. Gyda'r argyfwng hinsawdd yn dyfnhau, anghydraddoldeb yn ehangu, a gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau parhaus, mae'n amlwg nad yw'r model economaidd presennol yn addas at y diben mwyach. Mae'r maniffesto hwn, a ddatblygwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig mewn partneriaeth ag Oxfam Cymru, yn cyflwyno cynllun beiddgar ond ymarferol ar gyfer adeiladu Economi Llesiant yng Nghymru – economi a gynlluniwyd i wasanaethu anghenion pobl a'r blaned, 'nawr ac am genedlaethau i ddod.
Economi Llesiant yw un lle nad twf er ei fwyn ei hun yw unig nod polisi economaidd, ond yn hytrach llesiant pawb o fewn ffiniau planedol. Mae'n herio'r syniad mai Cynnyrch Domestig Gros yw'r unig ffordd neu'r ffordd orau o fesur llwyddiant. Yn hytrach, mae'n blaenoriaethu cyfiawnder cymdeithasol, cynaliadwyedd amgylcheddol, iechyd, cydraddoldeb a bywoliaethau ystyrlon. Mae'n cydnabod bod economi ffyniannus yn dibynnu ar amgylchedd iach a chymdeithas lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl