Gweledigaeth am Gymru Gyfiawn”

Sut gall y Senedd frwydro yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, gan amddiffyn pobl a'r blaned

Gweledigaeth am Gymru Gyfiawn

Mewn byd a nodweddir gan anghydraddoldeb cynyddol ac ymddatodiad yr hinsawdd, mae Cymru'n wynebu dewis diffiniol. Gallwn arwain y ffordd tuag at gyfiawnder, cynaliadwyedd a thegwch i bawb, neu ganiatáu i'r argyfyngau hyn ddyfnhau, gartref ac yn fyd-eang.

Mae'r heriau sydd o'n blaenau yn aruthrol. Ledled y byd, mae tlodi sefydledig, anghydraddoldeb economaidd cynyddol a chost uwch hanfodion yn gwneud bywyd bob dydd yn frwydr i biliynau.1 Mae gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau, mae dyled yn cynyddu, ac mae anghenion dyngarol2 yn gwaethygu yng nghanol gwrthdaro ac anhrefn hinsawdd.

Nid problemau unigol yw'r rhain. Symptomau anghyfiawnderau dwfn ydynt, lle mae pŵer a chyfoeth wedi'u crynhoi yn nwylo’r lleiafrif tra bo lleisiau'r mwyafrif – yn enwedig y rhai sydd wedi'u hymyleiddio oherwydd hil, dosbarth, rhywedd, anabledd, statws mudol, ac agweddau eraill ar hunaniaeth – yn cael eu cau allan.

Gweledigaeth am Gymru Gyfiawn”

Sut gall y Senedd frwydro yn erbyn anghyfiawnder ac anghydraddoldeb, gan amddiffyn pobl a'r blaned

Yn fyd-eang, mae 838 miliwn o bobl – un o bob deg – yn byw mewn tlodi eithafol3, a ninnau'n agosáu at oes y triliwnydd cyntaf.4 Mae llywodraethau cyfoethog yn torri cymorth sy'n achub bywydau,5 yn tanseilio sefydliadau rhyngwladol, ac yn anwybyddu cyfraith ddyngarol. Mae cydraddoldeb rhyweddol yn parhau i fod genedlaethau i ffwrdd,6 tra bo cydraddoldeb a hawliau menywod dan ymosodiad cynyddol o du cyfundrefnau awdurdodaidd, mudiadau asgell dde eithafol a gwrth-hawliau, a chynnydd yn yr hyn a elwir yn ‘rhyfeloedd diwylliannol’7. Ar yr un pryd, mae cynnydd byd-eang o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ymhell o fod ar y trywydd iawn.

Yma yng Nghymru, mae tlodi ac anghydraddoldeb yn parhau i fod yn ystyfnig o uchel. Mae un o bob pedwar unigolyn yn byw mewn tlodi, gan gynnwys bron un o bob tri phlentyn.8 Mae'r argyfwng costau byw wedi dyfnhau i'r pwynt lle mae caledi wedi'i normaleiddio, tra bo gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau aruthrol. Mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol mewn argyfwng, mae anghydraddoldebau’n cynyddu, ac rydym ar ei hôl hi o ran y targedau hinsawdd.

Mae ymrwymiad Cymru i genedlaethau'r dyfodol, llesiant pobl a'r blaned, datblygu cynaliadwy, a chyfrifoldeb byd-eang wedi'i ymgorffori yn y gyfraith – ond nid ydym yn cyrraedd y nod. Mae camau gweithredu ar yr hinsawdd yn rhy araf, ac mae'r anallu i godi refeniw mewn modd teg yn oedi'r buddsoddiad sy'n ofynnol i sicrhau pontio teg. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn talu'r pris.

Mae'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf – ac maent yn aml yn wynebu nifer o anghydraddoldebau sy'n gorgyffwrdd – yn cael eu heithrio'n rheolaidd o benderfyniadau sy'n llunio eu bywydau. O ofal di-dâl a gwaith ansicr i wasanaethau anhygyrch a phrosesau llunio polisïau sy'n anwybyddu profiadau byw, mae anghydraddoldeb yn rhan annatod o fywyd bob dydd.

Ac eto, er gwaethaf maint yr heriau hyn, mae Cymru decach, fwy gwyrdd a mwy cyfartal yn bosibl – os dewiswn arweinyddiaeth feiddgar a chamau gweithredu trawsnewidiol.

Rhaid i'r Senedd nesaf sicrhau bod ymdrin ag anghydraddoldeb yn genhadaeth ganolog iddi. Mae hyn yn golygu symud y tu hwnt i atebion byrdymor i fynd i'r afael â gwraidd y broblem anghyfiawnder. Rhaid i ni wrthod modelau twf ecsbloetiol a datblygu economi sydd wedi'i gwreiddio mewn gofal, cydraddoldeb, tegwch, llesiant a chynaliadwyedd. Nid yw busnes fel arfer yn opsiwn mwyach.

Mae'r papur hwn yn nodi gweledigaeth Oxfam Cymru ar gyfer Cymru decach. Rydym yn galw am weithredu ar draws pedwar piler cydgysylltiedig: cyfiawnder economaidd, cyfiawnder cymdeithasol, cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder byd-eang. Mae cynnydd mewn un maes yn dibynnu ar gynnydd ym mhob un.

Mae ar Gymru angen mwy o bwerau datganoledig i gyflawni newid gwirioneddol, a dylai gael y pwerau hynny. Ond hyd yn oed yn y setliad presennol, mae yna le – a chyfrifoldeb – i gymryd camau beiddgar. Gyda'r pwerau sydd eisoes ar gael i ni, gall Cymru arwain y ffordd i lunio dyfodol tecach, gwyrddach a mwy cyfartal, ac mae'n rhaid iddi wneud hynny. A chyda'r pwerau cywir ar waith, gallem fynd ymhellach fyth. Mae Cymru well sy'n gofalu am y bobl a'r blaned yn bosibl. Dyma ein cyfle ni i weithredu – gyda’n gilydd, a thros bob un ohonom.