Gwyrdd, Teg, a Gofalgar”

Map Ffordd Ffeministaidd i Gymru

Gwyrdd Teg a Gofalgar

Yn Oxfam Cymru, credwn na ellir mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb heb edrych hefyd ar y frwydr i sicrhau cyfiawnder o ran rhywedd a’r hinsawdd. Ar hyd a lled y byd, y rhai sy’n cyfrannu leiaf tuag at yr argyfwng hinsawdd—menywod, pobl sy’n byw mewn tlodi, a chymunedau sydd wedi’u gwthio i’r cyrion oherwydd rhywedd, hil, dosbarth, anabledd, neu statws mewnfudo at ei gilydd—yw’r rhai sy’n dioddef fwyaf o effeithiau’r argyfwng. Dyna pam y mae strategaeth fyd-eang Oxfam yn ein hymrwymo i hybu dewisiadau eraill ffeministaidd a dad-drefedigaethol sy’n rhoi gofal am bobl a’r blaned wrth graidd trawsnewidiad economaidd

Mae’r adroddiad hwn yn cyfrannu tuag at weledigaeth fyd-eang o fywyd gwyrdd tecach trwy ei gosod yn y cyd-destun Cymreig. Mae’n cydnabod bod cysylltiad cryf rhwng yr argyfwng economaidd a’r argyfwng hinsawdd fel canlyniadau annatod systemau annheg—patriarchaeth, neoryddfrydiaeth, ac economeg echdynnol— sy’n manteisio ar bobl ac yn diraddio’r amgylchedd. O fewn hyn, mae tanbrisio gwerth gofal—gofal â thâl a gofal di-dâl—yn dangos sut mae’r systemau hyn yn dibynnu ar fanteisio ac yn methu â chynnal sylfeini ein cymdeithasau. O ganlyniad, rhaid i bontio teg fod yn ffeministaidd: mynd at wraidd anghydraddoldeb, gweld gwerth gofal fel seilwaith cymdeithasol hanfodol, a sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’r papur trafod hwn, sy’n seiliedig ar y cyd-destun yng Nghymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r momentwm tuag at economi lesiant, yn nodi cynigion ymarferol mewn pedwar prif faes—gofal cymdeithasol, gwaith, trafnidiaeth, ac ynni. Mae’r argymhellion hyn yn galw ar y llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, a chymdeithas sifil i weithredu heddiw er mwyn creu dyfodol tecach a gwyrddach. Mae’r papur hwn yn darlunio economi sy’n gofalu am bobl a’r blaned: lle mae gofal yn cael ei gydnabod fel hawl ddynol a nwydd cyhoeddus, a lle mae penderfyniadau’n cael eu llywio nid gan elw byrdymor i’r ychydig ond gan lesiant hirdymor i bawb. Gobeithio y bydd yn ysgogi’r sgyrsiau hollbwysig a’r gweithredu gwleidyddol sydd ei angen er mwyn adeiladu Cymru decach, wyrddach, a mwy gofalgar—tra’n sefyll gyda’n gilydd i gefnogi ymdrechion byd-eang i sicrhau cyfiawnder yng ngwledydd De’r Byd a thu hwnt

Gwyrdd, Teg, a Gofalgar”

Map Ffordd Ffeministaidd i Gymru