Ar Gynnydd Iaith Casineb yn y Parth Cyhoeddus

Oxfam Cymru

23 Jun, 2026 / 3 mins read time

Ymateb Oxfam Cymru i'r iaith a ddefnyddiwyd gan rai Aelodau newydd y Senedd yn gynnar yn nhymor y Senedd 2026-30

Datganiad Oxfam Cymru ar Gynnydd Iaith Casineb yn y Parth Cyhoeddus 

Mae Oxfam Cymru yn bryderus iawn ynghylch y defnydd annerbyniol o iaith yn sesiynau llawn y Senedd yr wythnos diwethaf (16–17 Mehefin), lle gwnaed sylwadau hiliol a dirmygus sy'n peryglu ysgogi rhaniad a chasineb yn ein cymunedau.

Rydym yn condemnio'n gryf bob math o iaith casineb ac yn sefyll yn gadarn yn ein gwerthoedd gwrth-hiliol, ffeministaidd a gwrth-wladychol. Nid oes lle i gulni rhagfarn yn ein mannau cyhoeddus na gwleidyddol.

Mae Oxfam yn gweithio ar draws y byd i fynd i'r afael â thlodi, anghydraddoldeb, argyfyngau dyngarol a'r argyfwng hinsawdd, wedi'i arwain gan egwyddorion ffeministaidd ac wrth-wladychol sy'n blaenoriaethu cyfiawnder ac urddas. Nid yw iaith byth yn niwtral, mae'n llunio pŵer, yn dylanwadu ar agweddau'r cyhoedd, a gall naill ai herio neu atgyfnerthu anghydraddoldeb.

Mae Cymru yn falch o gydnabod gwerthoedd sydd wedi'u gwreiddio yn ein hanes, ein hunaniaeth, ein hundod cymunedol, mewn cydraddoldeb a gwydnwch diwylliannol.

Rydym yn genedl sydd wedi bod yn hyrwyddo heddwch, tegwch a phartneriaeth ers amser maith, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi ymgorffori'r egwyddorion hyn yn y gyfraith, yn fwyaf amlwg trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, cyfraith sy'n arwain y byd.

Siom enfawr felly yw gweld elfennau o drafodaeth gyhoeddus yn cael eu dirmygu gan y sawl sydd am ddefnyddio iaith raniadol ac anoddefgar i hau casineb ymhlith, a hollti, ein cymunedau.

Yn rhy aml, mae safbwyntiau niweidiol yn cael eu hail-becynnu fel pryderon dilys - a'u cyflwyno fel gwladgarwch neu deimlad gwrth-fewnfudo - hyn wrth atgyfnerthu hiliaeth a rhagfarn tuag at grwpiau sydd eisoes wedi'u hymylu a'u hilioli.

Nid yw hyn yn digwydd ar ei ben ei hun. Ar draws y DG, mae tuedd gynyddol o rethreg raniadol yn cael ei normaleiddio ar draws y ddadl wleidyddol, wrth i fuddugoliaethau pitw gwleidyddol tymor byr gael eu blaenoriaethu dros ddiogelwch a chydlyniant ein cymunedau. Ar adeg o galedi economaidd ac ansicrwydd gwirioneddol, mae'n anghyfrifol manteisio ar rwystredigaethau pobl trwy ledaenu gwybodaeth ffug a di-sylfaen gan wneud cymunedau penodol yn fwch dihangol, yn hytrach na mynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb.

Mae anghydraddoldeb cynyddol ochr yn ochr ag erydiad safonau byw eisoes yn rhoi pwysau aruthrol ar gymunedau ledled Cymru. Gwyddom fod y rhai yr effeithir arnynt fwyaf - gan gynnwys cymunedau wedi'u hilioli - yn rhy aml yn cael eu beio'n annheg mewn cyfnodau o argyfwng, gan dynnu sylw oddi wrth achosion strwythurol tlodi ac anghyfiawnder.

Yng Nghymru, rydym hefyd yn gweld bod rhethreg o'r fath yn aml yn dilyn patrwm cyfarwydd: tynnu digwyddiadau o'u cyd-destun, yn aml yn llwyr amherthnasol i Gymru, eu defnyddio i hyrwyddo naratif ffug sy'n amlwg yn groes i ffeithiau a realiti, gan anwybyddu'r rhai a fyddai'n cywiro'r wybodaeth anghywir sy'n cael ei lledaenu. Er bod y sgyrsiau hyn, yn ddiamau, yn bodoli mewn lleoliadau anffurfiol, ni ddylid eu normaleiddio na'u mwyhau yn ein sefydliadau dinesig a gwleidyddol, lle bo gofyn i safonau fod yn uwch.

Mae Oxfam Cymru yn galw ar bawb sydd â synnwyr o'r urddas ac ymddygiad sy'n gweddu i fywyd cyhoeddus, i herio ymddygiad difrïol lle bynnag y maent yn ei dystio. Waeth beth fo'u cysylltiad gwleidyddol neu eu cefndir, mae gennym ni oll gyd gyfrifoldeb i hoelio rhagfarn - nid i'w oddef na chael ein denu iddo.

Byddwn bob amser yn sefyll yn erbyn rhaniad a chasineb, a dros gydraddoldeb a thegwch.

Dywedodd Hade Turkmen, Pennaeth Dros Dro Oxfam Cymru,

‘Mae cryfder ein democratiaeth yng Nghymru yn seiliedig ar barch, undod, gofal a thystiolaeth, gydag ymrwymiad clir i’r lles cyffredin. Pan fydd dadl yn llithro i raniad ac ystumio hurt, mae’n bychanu nid yn unig ein sefydliadau ond y cymunedau y maent yn eu cynrychioli a’u gwasanaethu. Dylem ddisgwyl mwy o'n trafodaeth gyhoeddus, a chan y rhai sy’n dal swyddi cyhoeddus - eu bod yn adlewyrchu’r gwerthoedd sy’n annwyl i ni, bod anghytundebau’n gadarn ond wedi’u gwreiddio yn y gwirionedd, bod iaith yn herio syniadau heb ddiraddio eraill, a’u bod yn ein dwyn yn agosach at ein gilydd yn hytrach na’n tynnu ar wahân’.

Dywedodd Tîm Cyfiawnder Hiliol Oxfam

‘Rydym yn deall o hanes nad yw rhagfarn a rhaniad yn ymddangos dros nos, maent yn cael eu normaleiddio pan adawir iaith niweidiol heb ei herio. Mae Cymru wedi gwneud cynnydd gwirioneddol wrth ymgorffori cydraddoldeb, urddas a hawliau dynol mewn bywyd cyhoeddus, a rhaid inni beidio â chymryd camau yn ôl tuag at gyfnod lle’r oedd rhagfarn yn haws ei esgusodi neu ei anwybyddu. Dylai dadl gyhoeddus helpu i feithrin dealltwriaeth ac atebion, nid dyfnhau ofn na drwgdybiaeth. Mae gan y rhai sydd â llwyfan gyfrifoldeb i'w ddefnyddio'n ofalus, i herio rhagfarn a chasineb, ac i sefyll gyda chymunedau sy'n rhy aml yn dioddef yn sgil rhethreg raniadol.’

Mae hanes yn dangos pan na chaiff y math hwn o rethreg ei herio, nad yw'n stopio gydag un grŵp; mae'n lledaenu, yn dyfnhau rhaniadau, ac yn gwanhau sylfeini cymdeithas deg a chynhwysol, a chyfiawnder. Mae gennym oll gyfrifoldeb i'w herio lle bynnag y mae'n ymddangos, ac i sicrhau bod ein trafodaeth gyhoeddus yn adlewyrchu'r gwerthoedd sylfaenol o barch at ein cyd-ddyn, urddas a gonestrwydd y mae Cymru'n ei gynrychioli.

/DIWEDD