Y Flwyddyn i Ddod

Oxfam Cymru

4 Jul, 2026 / 6 mins read time

Am y tro cyntaf ers ddechrau datganoli ym 1999, mae gan Gymru blaid gwleidyddol newydd mewn llywodraeth. Bydd y flwyddyn gyntaf hon o dymor y Senedd yn diffinio cyfeiriad y wlad. Dyma beth mae Oxfam Cymru eisiau ei weld.

Y Flwyddyn i Ddod - Yr hyn sydd angen i Lywodraeth Newydd Cymru ei gyflawni yn y flwyddyn gyntaf

Mae Cymru bob amser wedi anelu at fod yn genedl sy'n gweithredu gyda thrugaredd yn ein cymunedau ac ar draws y byd. Heddiw mae'r addewid hwnnw dan straen.

Ar draws Cymru, mae gormod o bobl yn cael hi'n anodd fforddio'r pethau sylfaenol. Mae tlodi yn ddwfn, yn barhaus, ac yn dal i lunio cyfleoedd bywyd gormod o blant. Ar yr un pryd, mae argyfyngau byd-eang, o wrthdaro i chwalfa hinsawdd, yn gwthio miliynau i dlodi a dadleoli.

Nid heriau ar wahân yw'r rhain. Maent yn gysylltiedig. Ac nid oes dim o hyn yn anochel. Mae popeth yn dibynnu ar y dewisiadau a wnawn.

Os ydym o ddifrif ynglŷn â bod yn genedl deg a chyfrifol byd-eang, mae angen gweithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â'n gwerthoedd. Rhaid i flwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon brofi bod tegwch yn fwy na slogan ac addewid, mae'n rhan sylfaenol o'u rhaglen.

Mae Llywodraeth newydd Cymru yn dod i rym ar adeg o her ddwys gartref a thramor.

Prawf Cyntaf Llywodraeth: Cynllun Clir i Waredu Tlodi Plant

Bydd mynd i'r afael â thlodi plant yn brawf sylfaenol o lwyddiant y Llywodraeth. Mae ei ymrwymiad i flaenoriaethu dileu tlodi plant i’w groesawu, ond cyflawni sy'n bwysig.

Mae ymyriadau allweddol eisoes ar y bwrdd, ehangu gofal plant tuag at gynnig cyffredinol, ymestyn prydau ysgol am ddim, a chyflwyno Cynnal, Taliad Plant Cymru. Mae gan y mesurau hyn y potensial i wneud gwahaniaeth, ond dim ond os cânt eu hategu gan gynllun clir, amserol, atebolrwydd cryf, a ffocws di-baid ar effaith. Rhaid eu gweithredu mewn ffordd sy'n ysgogi nifer uchel o bobl i gymryd rhan, yn enwedig ymhlith y teuluoedd hynny sydd fwyaf angen cymorth, a rhaid eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau eu bod yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl yn hytrach na dim ond ehangu'r ddarpariaeth ar bapur.

Heb gerrig milltir clir ac adrodd cyhoeddus cyson, mae risg gwirioneddol o fethu. Dyna pam y mae'n rhaid adeiladu tryloywder i'r ddarpariaeth o'r cychwyn cyntaf. Mae datblygiad cyflym y dangosfwrdd digidol a addawyd, i olrhain cynnydd, yn hanfodol, gan ddarparu tystiolaeth glir a hygyrch ynghylch a yw polisïau'n lleihau tlodi plant yn ôl y bwriad.

Mae cynnydd wrth ddileu tlodi plant yn gyraeddadwy o fewn y tymor hwn. Ond bydd angen brys, disgyblaeth a ffocws gwleidyddol, gydag incwm, nid dim ond gwasanaethau, yn cael ei drin yn ganolog i'r ymateb.

Adeiladu Economi Gofalgar - Nid Dim ond Tyfu'r Hen Un

Os yw'r Llywodraeth hon am sicrhau tegwch, rhaid iddi ail-lunio'r economi. Ni fydd twf ar ei ben ei hun yn lleihau tlodi nac anghydraddoldeb, bydd dibynnu arno i wneud hynny yn creu perygl o adael gormod o bobl allan o fantais cynnydd. Yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw economi sy'n buddsoddi'n fwriadol mewn gofal - mewn pobl, mewn cymunedau ac yn y systemau sy'n cynnal bywyd bob dydd.

Mae gofal plant gyda’r pwysau mwyaf ar gyllidebau teuluoedd ac yn rhwystr mawr i waith, hyfforddiant a chyfle, yn enwedig i fenywod a rhieni sengl. Ac i'r economi ehangach, mae'n seilwaith hanfodol sy'n galluogi cyfranogiad a chynhyrchiant.

Mae ehangu gofal plant a ariennir yn bwysig, ond rhaid iddo fod yn deg, yn gyflym ac yn hygyrch, gyda system syml nad yw'n eithrio pobl oherwydd cymhlethdod. Rhaid iddo gyrraedd y rhai sydd angen cymorth fwyaf, yn hytrach nag atgyfnerthu anghydraddoldebau presennol, a rhaid ei adeiladu ar fodel sy'n gynaliadwy yn y tymor hir ac yn gallu darparu darpariaeth gyson o ansawdd uchel.

Mae hyn yn dibynnu ar y gweithlu y tu ôl iddo. Os yw gofal plant am ehangu'n llwyddiannus, rhaid gwerthfawrogi'r bobl sy'n ei ddarparu. Mae hynny'n golygu cyflog teg, contractau diogel ac amodau gwaith derbyniol - hebddynt ni all y system dyfu na chynnal ansawdd. Mae peidio â chyflawni hyn yn peryglu tanseilio'r uchelgais i ehangu mynediad.

Rydym yn cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, a'u huchelgais i gyflawni, ond ni ddylid caniatáu i faint y dasg rwystro cynnydd cyflym ar gyflawni. Mae angen gweithred brys ar blant a theuluoedd Cymru nawr, rhaid cydnabod gofal plant fel conglfaen economi gryfach, decach a mwy gofalgar.

Yn fwy cyffredinol, mae adeiladu economi ofalgar yn golygu cydnabod nad yw gwaith gofal - o ofal plant i ofal cymdeithasol - yn rhan ymylol o'r system ond yn sail iddi. Dyma sy'n galluogi pobl i fyw, i weithio ac i gymryd rhan lawn yn y gymdeithas. Nid cost i'w rheoli yw buddsoddi mewn gofal, ond dewis strategol sy'n cryfhau gwydnwch, yn ehangu cyfleoedd ac yn gyrru mwy o gydraddoldeb ledled Cymru.

Tegwch wrth Galon yr Economi

Mae angen economi ar Gymru deg sy'n codi safonau byw yn weithredol, yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cadw cyfoeth wedi'i wreiddio yn ei chymunedau. Mae hynny'n golygu symud tu hwnt i fodel sy'n gobeithio'n syml y bydd twf yn diferu i lawr, ac yn lle hynny llunio economi sy'n gweithio i bawb. Mae gan y Llywodraeth declynnau grymus wrth law, o sut mae'n gwario arian cyhoeddus i sut mae'n caffael nwyddau a gwasanaethau ac yn cefnogi busnesau. Rhaid defnyddio'r rhain yn bwrpasol, i hyrwyddo tegwch.

Mae hyn yn golygu cefnogi gwaith teg, sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cefnogi'r Cyflog Byw a chyflogaeth ddiogel, a defnyddio caffael i dyfu cyfoeth cymunedol yn hytrach na chaniatáu i adnoddau ehedeg o economïau lleol. Mae hefyd yn golygu creu'r amodau i fusnesau lleol, cyfrifol ffynnu ac ail-fuddsoddi yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Heb wynebu anghydraddoldeb strwythurol yn uniongyrchol, bydd cynnydd bob amser yn friwsionllyd, a bydd gormod o bobl yn parhau i gael eu heithrio o fanteision twf economaidd.

Pontio Cyfiawn

Mae hinsawdd ac anghydraddoldeb yn gwbl glwm, a rhaid i bolisi leihau'r ddau. Os yw gweithredu ar yr hinsawdd yn cynyddu costau i gartrefi incwm isel sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd, neu'n symud y baich at gymunedau mewn mannau eraill yn y byd, nid yw wedi cyflawni cyfiawnder, ac ni fydd yn cynnal cefnogaeth y cyhoedd. Rhaid i drawsnewid cyfiawn sicrhau bod pobl yn profi manteision pendant yn eu bywydau beunyddiol, o filiau ynni is - trwy gartrefi cynhesach a systemau ynni mwy effeithlon - i fynediad at swyddi da a diogel mewn diwydiannau gwyrdd.

Dyma pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gryfhau a gweithredu'r Strategaeth Trawsnewid Cyfiawn, gyda thargedau clir a mesurau atebolrwydd sy'n rhoi tegwch ac yn lleihau anghydraddoldeb wrth wraidd. Rhaid i gymunedau yng Nghymru a thu hwnt rannu manteision y trawsnewid - cartrefi cynhesach, biliau is, swyddi diogel a da i bawb ac aer glanach. Ni ddylid gorfodi costau trawsnewidiad ar y rhai sydd â'r lleiaf.

Nid yw trawsnewid cyfiawn i economi werdd a gofalgar yn ddewisol - dyma'r unig lwybr credadwy o’n blaen. Rhaid i gyfiawnder cymdeithasol, economaidd a hinsawdd fod wrth wraidd trawsnewidiad economaidd Cymru.

Deddf Hawliau Dynol i Gymru

Mae'r ymrwymiad i gyflwyno Deddf Hawliau Dynol i Gymru yn gam pwysig tuag at adeiladu cenedl decach.

Ond nid yw hawliau'n haniaethol - rhaid iddynt lunio'r dewisiadau go iawn y mae Gweinidogion yn eu gwneud, ar nawdd cymdeithasol, gofal plant, tai, hinsawdd a phartneriaethau rhyngwladol.

Cymru deg yw un lle gall pawb fyw gydag urddas, diogelwch a chyfle - a lle nad yw ein penderfyniadau'n niweidio pobl mewn mannau eraill. Dylid amddiffyn yr hawliau hyn yn y gyfraith, gyda deddfwriaeth hawliau dynol rhyngwladol wedi'i hymgorffori'n llawn yn neddfwriaeth Cymru.

Rhaid i'r flwyddyn gyntaf hon fod yn ymwneud â throi ymrwymiadau'n weithrediadau, a gwireddu hawliau go iawn ym mywydau beunyddiol pobl.

Cenedl Deg a Chyfrifol yn Fyd-eang

Mae Cymru wedi hawlio rôl ers canrifoedd fel cenedl gyfrifol fyd-eang.

Mae angen i'r hawliad hwnnw gyd-fynd â phenderfyniadau, cyllidebau a safonau. Gyda thlodi byd-eang yn cynyddu, anghyfiawnder hinsawdd yn dyfnhau ac argyfyngau dyngarol ar dwf, ni all Cymru gamu'n ôl, rhaid iddi gamu ymlaen mewn ffyrdd ymarferol. Mae hyn yn golygu cynyddu cefnogaeth i ddatblygiad rhyngwladol a chryfhau partneriaethau byd-eang hirdymor, dan arweiniad y gymuned. Mae’n golygu sicrhau nad yw gwariant cyhoeddus a chaffael Cymru yn gwneud unrhyw niwed dramor, gyda diogelwch hawliau dynol ac amgylcheddol clir wedi'u hadeiladu i mewn i’w sylfaen.

Mewn byd cydgysylltiedig, nid yw cyfiawnder byd-eang ar wahân i flaenoriaethau domestig. Dyma ran o'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru arwain gyda thegwch, byw ein gwerthoedd, a gweithredu'n gyfrifol y tu hwnt i'n ffiniau.

Y Dewis O'n Blaen

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi nodi rhaglen uchelgeisiol ac mae llawer o'i blaenoriaethau'n cyd-fynd â'r hyn sydd ei angen ar Gymru ar frys, mae hynny'n gorgyffwrdd â llawer o flaenoriaethau Oxfam Cymru.

Ond y prawf go iawn yw'r hyn sy'n digwydd nesaf.

Mae'r flwyddyn gyntaf yn gyfle pendant i weithredu ar frys ar dlodi, buddsoddi mewn economi ofalgar, cyflawni ar yr hinsawdd mewn modd sy'n lleihau anghydraddoldeb a sicrhau cyfiawnder go iawn ym mywydau pobl.

Nid yw tlodi yng Nghymru yn rhywbeth ymylol, dyma'r realiti bob dydd i ormod o bobl, yn enwedig i blant. Ar yr un pryd, mae tlodi byd-eang ac angen dyngarol yn cynyddu, wedi'u gyrru gan wrthdaro, effeithiau hinsawdd ac anghydraddoldeb sy'n dyfnhau. Mae'r heriau hyn yn gydgysylltiedig. Mae penderfyniadau ar gyllidebau, polisi hinsawdd, caffael, hawliau dynol a natur, yn dwyn canlyniad nid yn unig gartref, ond ledled y byd.

Bydd blwyddyn gyntaf y Llywodraeth yn gyfnod hollbwysig - cyfle i gyflawni'r camau beiddgar sydd eu hangen i adeiladu Cymru decach, ac i ddangos arweinyddiaeth ar lwyfan byd-eang, dros heddwch, cyfiawnder a diogelu pobl a'r blaned, am genedlaethau i ddod.